Ein gwerthoedd

Submitted by creo_editor on Iau, 05/20/2021 - 10:56
Banner Image
Delwedd
Kneel Adran
Banner Title

Ein gwerthoedd

Chapter page paragraphs
Title
Ein gwerthoedd
Content

Dyma ein credoau sylfaenol sy’n allweddol i gynorthwyo ein gweledigaeth ar gyfer pêl-droed yng Nghymru a’i diwylliant. Gwnawn ein gorau i’w hanrhydeddu a’u defnyddio nid yn unig i lywio pob agwedd ar ein gwaith, ond hefyd yn esiampl i bob aelod o deulu pêl-droed Cymru.

Two Column Text Item
Title
Rhagoriaeth
Content

Wynebwn bob her drwy fod yn benderfynol ac â sbardun i gyflawni hyd eithaf ein gallu ym mhopeth a wnawn. Dangoswn ymrwymiad, ysgogiad, disgyblaeth a dyfalbarhad, gan ddal ein hunain yn atebol am ganlyniadau. Ym mhob agwedd ar bêl-droed a busnes, ymdrechwn at ragoriaeth.

Title
Teulu
Content

Hyrwyddwn ddiwylliant croesawgar, twymgalon lle mae pawb yn perthyn ac yn cael a’u cynnwys. Mae’r modd y daw pawb ynghyd yn nerthol, a thrwy’r nerth hwn byddwn yn parhau i ehangu ein teulu pêl-droed, gan groesawu unrhyw un sydd eisiau cyflawni pethau gwych i Gymru.

Title
Parch
Content

Credwn fod gwahanol syniadau, cryfderau, diddordebau a chefndiroedd diwylliannol yn sylfaenol i sicrhau llwyddiant. Byddwn yn ennyn parch eraill drwy ein hymrwymiad i fod yn agored, didwyll, moesegol a theg.

Quote Text

“Rydym ni wedi gweld twf sylweddol ar draws gêm y merched yn y blynyddoedd diwethaf, o ran niferoedd y cyfranogwyr a bod yn fwy gweladwy. Mae’n bryd adeiladu ar y momentwm yna a gwireddu potensial pêl-droed y merched.”

Author Name
Sophie Ingle
Banner Title Prefix

PENNOD PEDWAR: