Ein heriau

Submitted by creo_editor on Iau, 05/20/2021 - 10:20
Banner Image
Delwedd
covid
Banner Title

Ein heriau

Chapter page paragraphs
Title
Ein heriau
Content

Yn ein hymdrech i barhau’n gystadleuol tra’n creu twf a chynaliadwyedd, rydym yn wynebu’r heriau canlynol:

Title
Cymdeithasol-wleidyddol
Bullet List Texts
Bullet Point Text
Ansicrwydd a newidiadau anrhagweladwy i gyfranogiad torfol a digwyddiadau chwaraeon yn sgil pandemig Covid-19.
Bullet Point Text
Ansicrwydd cymdeithasol yn sgil mudiadau cymdeithasol byd-eang yn cwestiynu’r status quo cymdeithasol-wleidyddol a chyfiawnder, gan gynnwys LGBTQ+, Mae Bywydau Du o Bwys a Gwrthryfel Difodiant.
Bullet Point Text
Ansicrwydd gwleidyddol yn dilyn Brexit a chynnal perthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.
Bullet Point Text
Yr angen i weithredu’n awr ar yr argyfwng hinsawdd i ddiogelu’r amgylchedd tra’n cyflawni amcanion uchelgeisiol.
Bullet Point Text
Yr angen i ddarparu ar gyfer sylfaen o gefnogwyr a chyfranogwyr mwy amrywiol yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio a newidiadau i frethyn diwylliannol Cymru.
Title
Llywodraethu
Bullet List Texts
Bullet Point Text
Anghysondeb yn nulliau llywodraethu’r gêm ar lefel leol.
Bullet Point Text
Yr angen i ymgysylltu, gwrando a chynnwys yr holl randdeiliaid yn y sgwrs.
Bullet Point Text
Cydbwyso sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol i ddiwallu anghenion y sefydliad a chynrychioli’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Bullet Point Text
Yr agen i oresgyn ymddygiad negyddol a niweidiol (e.e. bwlio a gwahaniaethu) sy’n parhau ar bob lefel o bêl-droed.
Title
Cystadleurwydd
Bullet List Texts
Bullet Point Text
Cryfder a datblygiad cystadleuaeth ryngwladol ynghyd â ffactorau economaidd-gymdeithasol.
Bullet Point Text
Cost uchel ac ansawdd rhai cyfleusterau a’r graddau y maent ar gael.
Bullet Point Text
Y gallu i dyfu a datblygu pob agwedd ar y gêm oddi mewn i’r adnoddau sydd ar gael.
Title
Ymgysylltu
Bullet List Texts
Bullet Point Text
Yr angen am atebion mwy arloesol i ddarpariaeth chwaraeon er mwyn sicrhau cynnydd mewn cyfranogiad.
Bullet Point Text
Effaith cynnydd technolegol ar sut mae pobl yn cyfranogi ac yn ymgysylltu â chwaraeon ac endidau chwaraeon.
Bullet Point Text
Effaith tueddiadau defnyddwyr ar ddyfodol cyfranogiad chwaraeon.
Bullet Point Text
Cefnogwyr yn gynyddol yn disgwyl profiadau wedi’u teilwra’n bersonol.
Bullet Point Text
Tirwedd y cyfryngau yn newid yn gyflym a gwahanol alwadau yn cystadlu am sylw.
Bullet Point Text
Diffyg sylw yn y cyfryngau cenedlaethol i’r gêm ddomestig.
Bullet Point Text
Ansawdd gwael caeau glaswellt cyhoeddus a’r pafiliynau.
Text Colour
White
Banner Title Prefix

PENNOD tri: