Gall pêl-droed newid bywydau er gwell. Mae gan y gamp y nerth i gysylltu pobl ac effeithio ar eu bywydau mewn ffyrdd cadarnhaol.
Nid gêm yn unig yw pêl-droed: mae’n sbarduno newid ac mae ganddi’r gallu i effeithio ar ein cenedl er gwell. Ond mae angen i’r ffordd y gweithredwn fel sefydliad addasu a datblygu er mwyn bod yn berthnasol a phriodol heddiw ac yfory. Mae angen i ni ryddhau a harneisio’r potensial sydd gan bêl-droed i drawsnewid Cymru i fod y lle gorau y gall fod.
Nid yn unig y mae i bêl-droed fanteision iechyd corfforol amlwg, ond mae hefyd i’r gamp fanteision lles ac iechyd cymdeithasol. Mae’n hybu hunan-barch a chryfhau cydlyniant cymdeithasol mewn cymunedau.
Mae’r dyheadau sydd wedi’u cyflwyno yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn llywio ein gweledigaeth ar gyfer pêl-droed yng Nghymru. Deallwn bwysigrwydd ein rôl yn niwylliant Cymru yn ogystal ag effaith ein gweithgareddau wrth hyrwyddo Cymru ddwyieithog. Ymdrechwn i gyflawni camp sy’n cynorthwyo Cymru iachach sy’n fwy cydradd a chyfrifol yn fyd-eang.
Rydym yn rhannu’r uchelgeisiau a nodwyd yn Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a deallwn y rôl y gall pêl-droed ei chwarae wrth greu presenoldeb rhyngwladol cryf ac arddangos Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.
Rydym yn cydweithio tuag at greu Cymru yr ydym oll yn falch o’i hystyried yn gartref, heddiw ac am genedlaethau i ddod. Cenedl groesawgar sy’n ein tynnu oll ynghyd.
Cymru well ar gyfer y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.