Yn ystod y cylch strategol diwethaf, gwelsom lwyddiant enfawr ar wahanol lefelau’r gêm a chyflawnwyd ein huchelgais i fynd â phêl-droed Cymru i lwyfan y byd. Dangosom nad gêm yn unig yw pêl-droed.
Yn 2015, cymhwysodd prif dîm y dynion i brif dwrnamaint am y tro cyntaf mewn bron i 60 mlynedd. Gwnaeth bron i ddau draean o’r boblogaeth weld y gemau, a bu 200,000 o gefnogwyr yn dathlu ar strydoedd Caerdydd wrth i’r tîm ddychwelyd o’u taith i rownd gyn-derfynol EURO 2016. Dangosodd y profiad hwn gymaint o botensial sydd i bêl-droed yng Nghymru.
Lai na blwyddyn yn ddiweddarach, roedd llygaid y byd ar Gymru unwaith yn rhagor wrth i ni groesawu’r digwyddiad chwaraeon unigol mwyaf yn 2017, Gemau Terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA. Dros gyfnod o bedwar diwrnod, daeth mwy na 300,000 o gefnogwyr i Gaerdydd, a gwyliwyd gemau’r dynion a’r merched yn fyw gan gynulleidfa deledu fyd-eang mewn mwy na 200 o wledydd.
Cymhwysodd Cymru unwaith eto i EWRO 2020 gan gyrraedd Rownd yr 16. Dyma’r tro cyntaf erioed i ni gymhwyso ddwywaith yn olynol. Aeth prif dîm y dynion hefyd yn ei flaen i lwyddo yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA, gan ennill dyrchafiad i Gynghrair A yn 2020.
Mae datblygiad a chryfder ein timau ieuenctid cenedlaethol hefyd yn glir, wrth i garfannau’r dynion dan 17 a 19 ynghyd â’r merched dan 19 gymhwyso ar gyfer Rowndiau Elît UEFA yn ystod y cylch strategol diwethaf.
Cyrhaeddom nifer o gerrig milltir allweddol eraill hefyd, gan gynnwys ailstrwythuro’r pyramid domestig, trawsnewid strwythurau llywodraethu’r gymdeithas, bwrw ymlaen â’n gweledigaeth o rwydwaith o gyfleusterau o safon fyd-eang, a chynyddu nifer y merched sy’n chwarae’r gêm.
A ninnau’n awyddus i adeiladu ar yr adegau cofiadwy a’r cyflawniadau hanesyddol, rydym yn cychwyn ar y cylch strategol newydd ag egni a hyder o’r newydd, a chwant i gyflawni hyd yn oed mwy. Gêm a fydd hyd yn oed yn fwy hygyrch a phleserus; gêm y bydd rhagor o bobl yn cymryd rhan ynddi yn amlach, ar draws croestoriad eang o gymdeithas a chenedlaethau. Gêm a fydd yn gwella bywydau pobl ac yn cyfrannu at stori sy’n ysbrydoli ymhell y tu hwnt i gae pêl-droed.