A ninnau’n byw drwy gyfnod o newid cyflym lle mae tirwedd busnes a phêl-droed yn ymdonni’n gyson, mae angen i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod yn gadarn ac ystwyth er mwyn cyflawni’r amcanion a’r nodau sydd wedi’u cyflwyno yn y cynllun hwn.
Wrth inni ddefnyddio’r cynnydd a wnaed yn sylfaen i sicrhau llwyddiannau pellach, bydd angen i ni oresgyn yr achos mwyaf sylweddol o darfu ar galendr chwaraeon y byd ers yr Ail Ryfel Byd – pandemig Covid-19. Mae’r tarfu a’r ansicrwydd a ddaw yn ei sgil i bêl-droed a chymdeithas yn ei chyfanrwydd yn enfawr ac anochel.
Gyda’r pandemig byd-eang yn gefndir, ni allwn anwybyddu’r alwad i weithredu gan fudiadau Gwrthryfel Difodiant ac Mae Bywydau Du o Bwys. Galwad nid yn unig i uno yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a hiliaeth, ond i ddatgymalu systemau gorthrwm ac anghydraddoldeb sy’n parhau i rwystro cymunedau di-lais sydd wedi’u tangynrychioli rhag derbyn cyfleoedd ar draws holl feysydd pêl-droed a chymdeithas. Ein cyfrifoldeb ni fel cymdeithas yw ateb yr alwad hon.
Eto’n aml mewn adegau o argyfwng fel yma, gwelwn wir gryfder ein cymunedau yng Nghymru a thu hwnt. Lle y caiff gwahaniaethau eu dathlu, lle y caiff lleisiau eu clywed, lle y caiff newid ei groesawu.
Er mor anochel yw’r angen i esblygu ein model busnes yn barhaus, mae angen i ni ganolbwyntio ar ymatebolrwydd drwy fonitro, adolygu ac addasu ein hymdrechion yn gyson. Rhaid i ni ymrwymo i gymryd camau pendant a defnyddio ein llwyfan i wynebu’r heriau y mae’r realiti presennol yn eu cyflwyno i ni. A ninnau’n gweithredu mewn tirwedd sy’n newid o hyd, ni ddylai arweinyddiaeth a llywodraethu fod yn bethau a wneir y tu allan i’w cyd-destun.
Gyda’n gilydd, gallwn anelu yn uwch ar gyfer pêl-droed yng Nghymru, yn lleol ac yn fyd-eang.