Ein gweledigaeth

Submitted by creo_editor on Iau, 05/20/2021 - 10:45
Banner Image
Delwedd
-
Banner Title

Ein gweledigaeth

Chapter page paragraphs
Title
O bêl-droed yn y parc i lwyfan y byd – gweledigaeth ar gyfer Cymru leol fyd-eang
Content

O bêl-droed yn y parc i lwyfan y byd – gweledigaeth ar gyfer Cymru leol fyd-eang

Rydym eisiau gweld pêl-droed yn arwydd o hunaniaeth Cymru. Gêm a gaiff ei dathlu, sy’n ysbrydoli ac uno ein cenedl ac sy’n ennyn balchder yng Nghymru.

Ar lefel fyd-eang, ymdrechwn i greu cenedl bêl-droed flaenllaw. Ein gweledigaeth yw cystadlu’n gyson â’r goreuon yn y byd ac ennyn balchder ein cenedl. Rydym eisiau i’n timau cenedlaethol gyrraedd Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop yn gyson, nid yn unig gan greu hanes ond ffurfio dyfodol Cymru hefyd gan osod y safon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae elfennau byd-eang a lleol y gêm yn cydblethu: mae’r gêm leol yn bwydo i mewn i’r gêm ryngwladol ac mae cyraeddiadau rhyngwladol yn arwain at lwyddiant pellach ar ein caeau chwarae cymunedol. Bydd ein cenhadaeth yn parhau hyd nes mai pêl-droed yw’r gamp fwyaf cynhwysol, hygyrch a llwyddiannus ym mhob rhan o Gymru.

Ar ein taith, byddwn yn creu profiadau pêl-droed cofiadwy a phleserus sy’n cyfoethogi bywydau pobl ac yn eu grymuso i fentro’n uchel a breuddwydio hyd yn oed yn uwch.

Mae ein gweledigaeth yn syml: Cymru leol fyd-eang.

Text

Mae ein gweledigaeth yn syml: Cymru leol fyd-eang.

Text Colour
White
Banner Title Prefix

PENNOD TRI: